SL(6)410 – Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi bod y ddarpariaeth o lety a gofal neu nyrsio i ddisgybl ysgol arbennig yn “gwasanaeth rheoleiddiedig” at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) a byddant yn ei gwneud yn ofynnol i berson sy’n darparu gwasanaeth o’r fath gofrestru o dan y Ddeddf.

Y drefn

Cadarnhaol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae rheoliad 2(3) yn darparu ar gyfer diffiniad o “ysbyty” ac yn cyfeirio at dri therm gwahanol a ddiffinnir mewn deddfwriaeth arall. Yn wahanol i ddiffiniadau eraill yn rheoliad 2(3), ni chyfeirir at yr adrannau o’r ddeddfwriaeth arall y gellir dod o hyd i’r tri therm ynddynt. Er enghraifft, diffinnir “ysbyty gwasanaeth iechyd” fel un sydd â’r ystyr a roddir yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ond nid yw’n cyfeirio at yr adran benodol sy’n rhoi’r ystyr. Nid yw hyn yn ddefnyddiol gan fod gofyn wedyn i'r darllenydd adolygu darnau mawr o ddeddfwriaeth i ganfod ystyr y termau perthnasol. Gofynnir felly am eglurhad ynghylch pam na ddefnyddir dull cyson o ddiffinio termau yn rheoliad 2(3).

Rhinweddau: craffu    

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

14 Tachwedd 2023